2 Kings 2

Duw yn cymryd Elias i'r nefoedd

1Pan oedd yr Arglwydd ar fin cymryd Elias i'r nefoedd mewn chwyrlwynt, roedd Elias ac Eliseus yn gadael Gilgal. 2Dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r Arglwydd eisiau i mi fynd ymlaen i Bethel.
2:2 Taith o ryw 8 milltir.
” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr Arglwydd yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma nhw'n mynd i Bethel.

3Dyma aelodau o urdd proffwydi Bethel yn dod allan i gyfarfod Eliseus, a dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod yr Arglwydd am gymryd dy feistr oddi arnat ti heddiw?”

“Ydw, dw i'n gwybod, ond peidiwch sôn am y peth,” meddai Eliseus.

4Yna dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r Arglwydd eisiau i mi fynd i Jericho.
2:4 Taith o ryw 12 milltir i'r de-ddwyrain o Bethel.
” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr Arglwydd yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma nhw'n dod i Jericho.

5Dyma aelodau o urdd proffwydi Jericho yn mynd at Eliseus, a dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod Arglwydd am gymryd dy feistr oddi arnat ti heddiw?”

“Ydw, dw i'n gwybod, ond peidiwch sôn am y peth,” meddai Eliseus.

6Yna dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r Arglwydd eisiau i mi fynd at yr Afon Iorddonen.
2:6 Taith o tua 3 milltir i'r dwyrain o Jericho.
” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr Arglwydd yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma'r ddau yn mynd yn eu blaenau.

7Roedd pum deg aelod o'r urdd o broffwydi wedi eu dilyn nhw, a pan oedd y ddau yn sefyll ar lan yr afon, roedd y proffwydi yn eu gwylio nhw o bell. 8Dyma Elias yn cymryd ei glogyn a'i rholio, a taro'r dŵr gyda hi. Dyma lwybr yn agor drwy'r afon, ac dyma'r ddau yn croesi drosodd ar dir sych.

9Ar ôl iddyn nhw groesi, dyma Elias yn gofyn i Eliseus, “Dwed wrtho i be ga i wneud i ti cyn i mi gael fy nghymryd oddi wrthot ti?”

“Plîs gad i mi gael siâr ddwbl
2:9 siâr ddwbl Roedd Eliseus yn gofyn am gael etifeddu rôl broffwydol ei feistr Elias, gw. Deuteronomium 21:16,17
o dy ysbryd di,” meddai Eliseus.

10Dyma Elias yn ateb, “Ti wedi gofyn am rhywbeth anodd. Os byddi di'n fy ngweld i'n mynd i ffwrdd, fe'i cei. Os ddim, gei di ddim.”

11Wrth iddyn nhw fynd yn eu blaenau yn sgwrsio dyma gerbyd o fflamau tân yn cael ei dynnu gan geffylau o dân yn dod rhyngddyn nhw, a dyma Elias yn cael ei gipio i fyny i'r nefoedd gan y chwyrlwynt.

12Roedd Eliseus yn ei weld, a dyma fe'n gweiddi, “Fy nhad, fy nhad! Ti oedd arfau a byddin Israel!”
2:12 Ti oedd … Israel Hebraeg, “Cerbyd a marchogion Israel!”
Welodd e mohono fe wedyn. A dyma Eliseus yn gafael yn ei ddillad a'u rhwygo'n ddau.

13Yna dyma fe'n codi clogyn Elias, oedd wedi syrthio oddi arno, a mynd yn ôl at lan yr Afon Iorddonen. 14Gafaelodd yn y clogyn oedd wedi syrthio oddi ar Elias, a gofyn, “Ydy'r Arglwydd, Duw Elias, wedi gadael hefyd?” Yna dyma fe'n taro'r dŵr gyda'r clogyn a dyma lwybr yn agor drwy'r afon, a croesodd Eliseus i'r ochr arall. 15Pan welodd proffwydi Jericho beth ddigwyddodd, dyma nhw'n dweud, “Mae ysbryd Elias wedi disgyn ar Eliseus.” A dyma nhw'n mynd ato a plygu i lawr o'i flaen.

16“Edrych syr, mae gynnon ni bum deg o ddynion abl yma,” medden nhw. “Gad iddyn nhw fynd i chwilio am dy feistr, rhag ofn bod y gwynt cryf anfonodd yr Arglwydd wedi ei ollwng ar ben rhyw fynydd neu yn rhyw gwm.”

Dyma Eliseus yn ateb, “Na, peidiwch a'u hanfon nhw.”

17Ond buon nhw'n pwyso arno nes iddo ddechrau teimlo'n annifyr. Felly dyma fe'n cytuno, a dyma'r proffwydi yn anfon y dynion i chwilio am Elias. Buon nhw'n chwilio am dri diwrnod ond methu cael hyd iddo. 18Arhosodd Eliseus yn Jericho, nes iddyn nhw ddod yn ôl ato. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Wel? Wnes i ddim dweud wrthoch chi am beidio mynd?”

Eliseus yn gwneud gwyrthiau

19Dyma bobl y dre yn dweud wrth Eliseus, “Mae'r dre yma mewn safle da, fel ti'n gweld, syr. Ond mae'r dŵr yn wael a dydy'r cnydau ddim yn tyfu.”

20“Dewch â llestr newydd i mi, a rhoi halen ynddo,” meddai Eliseus. Felly dyma nhw'n gwneud hynny. 21Yna dyma Eliseus yn mynd at lygad y ffynnon a thaflu'r halen i mewn iddi. A dyma fe'n dweud, “Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud: ‘Dw i'n puro'r dŵr yma. Fydd e ddim yn achosi marwolaeth nag anffrwythlondeb byth eto.’” 22Ac mae'r dŵr yn bur hyd heddiw, yn union fel roedd Eliseus wedi dweud.

23Aeth Eliseus o Jericho yn ôl i Bethel. Pan oedd e ar ei ffordd dyma griw o fechgyn ifanc yn dod allan o'r dre a dechrau gwneud hwyl am ei ben. Roedden nhw'n gweiddi, “Dos i ffwrdd
2:23 Dos i ffwrdd Hebraeg, “Dos i fyny”, a allai fod yn rheg bygythiol.
, y moelyn! Dos i ffwrdd, y moelyn!”

24Dyma fe'n troi rownd a rhythu arnyn nhw, a galw ar yr Arglwydd i'w melltithio nhw. A dyma ddwy arth yn dod allan o'r goedwig a llarpio pedwar deg dau o'r bechgyn.

25Yna dyma Eliseus yn mynd ymlaen i Fynydd Carmel, ac wedyn yn ôl i Samaria.

Copyright information for CYM